Mae’r actor adnabyddus Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed.

Yn ystod ei yrfa lewyrchus bu’n chwarae cymeriadau canolog mewn llu o gynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnwys Yr Alcoholig LlonY Pris35 Diwrnod, ac Un Bore Mercher ar S4C.

Ar ddechrau’r 1980au, bu’n chwarae rhan ‘Jac Daniels’ ar Pobol y Cwm, ac ymddangosodd hefyd ar y rhaglen blant Miri Mawr fel ‘Caleb y Twrch’.