Roedd hi’n wythnos bwysig i sawl cymeriad gwleidyddol… yn yr Alban, er enghraifft. Ar wefan genedlaetholgar bellacaledonia.org.uk, roedden nhw’n pwyso a mesur. Ystyr buddugoliaeth Humza Yousaf i ddechrau…

“Er gwaetha’ haeriadau rhai, dyw’r hyn sy’n cael ei alw yn gwrtais yn ‘geidwadaeth gymdeithasol’ – mae yna eiriau llai moesgar i’w ddisgrifio – ddim wedi diflannu na throi’n un o rymoedd y gorffennol yn yr Alban… dylai’r 47% o ail bleidleisiau a gafodd [Kate] Forbes brofi hynny… Beth ydi arwyddocâd buddugoliaeth Humza Yousaf? Gallech ddadlau ei bod yn llai o fuddugoliaeth i’w ymgyrch galed… na chweir arall i’r casgliad cymysg, swnllyd sy’n eu galw eu hunain yn wrthwynebwyr i [Nicola] Sturgeon a’i hetifeddiaeth…” (Sean Bell)

Beth ddylai ddigwydd nesa’? Dyna bwnc Mike Small

“Mae annibyniaeth yn parhau’n nod i tua hanner y boblogaeth, hyd yn oed os ydi’r llwybr at hynny’n aneglur. Byddai gweithredwr gwleidyddol craff yn ystyried yr holl wersi a gafwyd yng nghyfnodau Sturgeon ac [Alex] Salmond a diwygio ac aildanio’r blaid yn llwyr, gan gysylltu eto gyda’i haelodaeth a’r mudiad ‘Ie’ ehangach. Ond yn llawer pwysicach na hynny, rhaid i’r arweinydd newydd ailgysylltu gyda chymdeithas yr Alban a’r etholaeth ehangach. Ydi hi’n bosib gwneud hynny?”

Draw yn Lloegr, tro Boris Johnson oedd hi (unwaith eto) a’r blogiwr Ceidwadol Iain Dale yn awgrymu efallai nad ydi hi ar ben arno fo (unwaith eto)…

“Os ydych eisoes yn casáu Boris Johnson, r’ych chi wedi ei ddyfarnu’n euog eisoes. Ac os ydych yn gefnogwr, r’ych chi siŵr o fod yn ystyried yr holl beth yn Llys Cangarŵ (hawlfraint Nadine Dorries). Oes, mae ganddo record o fod yn gynnil gyda’r gwir, ond dyw hynny ddim o angenrheidrwydd yn golygu ei fod yn euog yn yr achos yma. Neu, os ydy e, mae’n rhaid i’r Pwyllgor [Safonau] brofi hynny. A, hyd yn hyn, dydyn nhw ddim wedi gwneud. A pheidiwch â meddwl bod hyn yn golygu fy mod i’n ffan o Boris. Fues i erioed, a dydw i ddim am ddechrau nawr.” (iaindale.com)

Yn ôl yng Nghymru, sefydlu dau ‘borthladd rhydd’ oedd newyddion mawr yr wythnos a phawb yn hawlio’r clod. Ond cwestiynau’r fenter oedd John Dixon…

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Lafur Cymru ill dwy eisiau hawlio’u rhan o’r clod… ac, yn achos yr un yng Nghaergybi, mae cyngor Plaid Ynys Môn yn mynnu eu hawl i ran o’r ganmoliaeth hefyd… Yn ddigon dealladwy, mae’n anodd i wleidydd wneud dim heblaw croesawu hwb i’r ardal y mae hi neu ef yn ei chynrychioli ac mae’n anodd edrych yn ehangach. Ond a yw twf economaidd yn Ynys Môn neu Sir Benfro, er mor angenrheidiol yw hynny, wir yn hwb i Gymru os nad yw’n gwneud dim ond symud gweithgaredd economaidd a swyddi o Sir Fflint a Sir Gaerfyrddin ac yn gostwng incwm llywodraeth ganol a lleol yr un pryd?” (borthlas.blogspot.com)