Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyfraith newydd fyddai yn rhoi’r cyfle i holl ddisgyblion Cymru ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus erbyn 2050.

Byddai mabwysiadu’r cynigion yn y Papur Gwyn newydd ar gyfer Bil Addysg Gymraeg yn golygu cynnydd yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg, a chynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, yn ôl y Llywodraeth.