Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor i wraig ar ôl i’w gŵr gyfaddef ei fod eisiau bod yn ddynes

Annwyl Rhian,

 Dw i wedi meddwl yn ddwys cyn anfon hwn atoch chi, ond dw i ddim yn gwybod lle i droi. Mae fy ngŵr wastad wedi bod yn ddyn “macho” iawn – licio’i beint a’i bêl-droed – ond ryw fis yn ôl mi wnes i ddod o hyd i fag yng nghefn ei gar oedd yn llawn dillad merched. I ddechrau ro’n i’n meddwl ei fod yn cael affêr… ond pan wnes i ofyn iddo dyma fo’n cyfaddef ei fod yn hoffi gwisgo dillad merched a wastad wedi bod eisiau bod yn ferch ers yn blentyn. Mae hyn wedi bod yn andros o sioc – dw i’n teimlo bo fi ddim yn adnabod y dyn wnes i briodi 24 mlynedd yn ôl. Mae’n dweud ei fod o dal yn fy ngharu i a dw i’n cydymdeimlo efo fo, ond dw i ddim yn siŵr os alla’i barhau i fod yn briod efo dyn dw i braidd yn adnabod. Alla i ddim trafod hyn efo neb arall, dw i’n teimlo gormod o embaras. Beth fasach chi’n cynghori fi i wneud?

Dw i’n gwerthfawrogi fod hyn wedi bod yn andros o sioc i chi a dw i’n siŵr fod pethau yn anodd iawn i chi’ch dau ar y funud – ond wir does dim rhaid i chi gywilyddio. Does dim bai arnoch chi am hyn – nid mod i’n llwytho’r bai ar eich gŵr chwaith. Mae bai wedi bod ar gymdeithas sydd wedi golygu nad ydi o wedi teimlo’n saff i gyhoeddi ei deimladau o’r cychwyn, gan gredu fod yn rhaid iddo fo guddio rhan fawr o bwy ydi o am yr holl flynyddoedd. Dw i’n gobeithio fod cymdeithas yn fwy goddefgar erbyn hyn – neu yn cychwyn mynd i’r cyfeiriad yna beth bynnag. Tybed oedd eich gŵr wedi bwriadu i chi weld y bag o ddillad merched? Os felly mae o wedi bod yn ddewr iawn. Tydach chi ddim yn dweud yn eich llythyr be mae o yn dymuno gwneud nesa – ydy o am fyw fel y mae o wedi ers blynyddoedd, hynny yw fel trawswisgwr, ond y tro yma ddim yn cuddio ei angen i wisgo fel merch oddi wrthych? Yntau ydi o am drawsnewid i fod yn ferch? Mae’r ddau yn mynd i olygu newid mawr i chi, wrth gwrs, ac mae dewis mawr o’ch blaen.

 

Dyn wnaethoch chi briodi ac nid gwraig, felly dw i’n siŵr fyddai pobol yn deall petaech chi rŵan yn penderfynu nad ydych chi am aros yn briod. Wedi dweud hynny, person ydi o – yr un person wnaethoch chi syrthio mewn cariad ag o yr holl flynyddoedd yn ôl – y person sydd wedi rhannu eich bywyd yn hapus, dw i’n cymryd, am 24 mlynedd. Ella nad oeddach chi yn ei adnabod o yn llwyr – ond tydi hynna ddim yn golygu mai celwydd oedd y gweddill. Dw i ddim yn credu y byddai o wedi aros efo chi cyhyd petai o ddim wir yn eich caru ac mi fyddai’n drist petai chi yn teimlo eich bod chi wedi colli eich gorffennol. Rydach chi’n sôn ei fod o yn hoff o bethau “macho” fel pêl-droed a mynd am beint, a’r argraff dw i’n cael ydi eich bod yn meddwl mai rhyw act ydi hyn – ond mae yna ddigon o ferched yn hoffi’r pethau yma hefyd, cofiwch. Rydach chi hefyd yn dweud ei fod o yn eich caru chi a’ch bod chi yn medru cydymdeimlo efo fo ond tydach chi ddim yn dweud os ydach chi yn ei garu o. Dw i’n credu mai dyna’r cwestiwn mawr wrth i chi benderfynu os ydach chi am dreulio gweddill eich bywyd efo fo, neu hi. Pa mor wahanol fyddai eich bywyd bob dydd o ddifri? Yr un fydd eich diddordebau, yr un fyddai eich arferion – y chi yn gwneud y coginio ac yntau yn trin yr ardd efallai – fyddai dim byd fel yna yn newid. Tydi personoliaeth rhywun ddim yn ddibynnol ar ei ryw, ond mae’n debyg fod hapusrwydd eich gŵr yn ddibynnol ar ei ryw, y cwestiwn ydi a fydd hyn ar draul eich hapusrwydd chi? Mae arna’i ofn mai dim ond y chi fedar ateb hynna a chi fydd rhaid gwneud y penderfyniad.

Dw i’n credu fod trafod ein problemau gyda phobol rydan ni yn ymddiried ynddyn nhw yn ffordd o ddod i ddeall a dod i dermau efo pethau, felly mi faswn i’n eich annog yn daer i siarad am y peth – efallai gyda therapydd. Mae yna hefyd wefannau a all fod o gymorth i chi a rhoi cyfle i chi ddarllen straeon gan bobol sydd wedi bod drwy rywbeth tebyg i chi – amryw sydd wedi aros efo’u partneriaid a chreu bywyd hapus. Mae transgenderpartners.com yn un.

Diolch i chi am ymddiried ynof a rhannu eich deilema. Dw i’n dymuno’r gorau i chi yn y dyfodol a nerth i chi drwy’r cyfnod anodd yma.