Mae un o delynorion gorau’r genedl ar fin dathlu pen-blwydd arbennig…

Bydd portread o Elinor Bennett yn cael ei roi i’r delynores fel “rhodd gan y genedl” ar ddiwedd yr Ŵyl Delynau Ryngwladol fis nesaf.

Ym mis Ebrill, bydd Elinor Bennett yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ac eleni fydd ei blwyddyn olaf yn Gyfarwyddwr Artistig yr ŵyl.