Mae Stephen Rule wedi bod yn mynd i wylio Wrecsam ers 1995, pan oedd yn fachgen chwech oed.

Erbyn hyn mae yn dad ei hun ac wrth ei fodd yn mynd â’i fab i’r Cae Ras.

Ond mae yn poeni bod cefnogwyr fu’n ffyddlon i’r clwb ers degawdau yn methu cael tocynnau i fynd i’r gemau, wrth i fwy a mwy neidio ar lori lwyddiant Wrecsam…