Ers i mi fwynhau’r gân ‘Marrakesh Express’ (Crosby, Stills & Nash: 1969) rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r ddinas ryfeddol hon yng nghanol Morocco. Ychwanegwch at hynny anturiaethau Keith Richards a Mick Jagger yn y ddinas – a bu’n uchelgais ers blynyddoedd i mi ddod  yma i weld yr hyn a ddenodd hippies y 1960au.