Dw i’n trio peidio ag ail ymweld â’r un rhaglenni yn y golofn yma ond dw i’n gwneud eithriad y tro hwn. Gan fod y rhaglen dan sylw yn ddrama barhaol (neu opera sebon fel oeddan nhw’n cael eu galw ers talwm), ond hefyd gan fod rhai o’r penodau diweddar yn haeddu sylw.

Sôn ydw i am Rownd a Rownd. Roedd hi’n ddyrys iawn yng Nglanrafon yr wythnos diwethaf felly mae’n well i mi roi crynodeb…