O fewn y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda ffrindiau agos o gefndiroedd Du a Mwyafrif Byd-Eang ac sydd yn trio gweithio o fewn y celfyddydau. Mae o wedi fy nharo fod yna broblem enfawr o fewn ein strwythurau cyllid yng Nghymru. Er bod y cyrff cyllid yn mynd ymlaen ac ymlaen ynghylch buddsoddi mewn ‘cymunedau’, pobl o gefndiroedd Byd-Eang a dosbarth gweithiol; mae pobl o’r cefndiroedd yma sy’n ceisio sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau yn cael profiadau anodd a chymhleth. Mae o hefyd