Mae’n anodd i ni yng Nghymru ddeall maint y casineb oedd gan rai yn yr Alban tuag at Nicola Sturgeon, hyd yn oed o fewn ei phlaid ei hun.

Ond mae’r gwefannau cymdeithasol yno yn dangos fel yr oedd y drafodaeth am rywedd a’r hawl i’w newid wedi troi’n wenwynig a sut yr oedd y Prif Weinidog yn cael ei beio am fethu ag ennill annibyniaeth.