Rhoi sylw i amrywiaeth celfyddydol ein gwlad yw bwriad yr actores adnabyddus Ffion Dafis yn ei chyfres radio newydd sy’n cychwyn heddiw (dydd Sul, 2 Ebrill).
Bydd y rhaglen newydd ar Radio Cymru yn bwrw golwg ar y celfyddydau yn ei holl amrywiaeth, o gerddoriaeth i lenyddiaeth ac o waith celf i ddawnsio.
Ers i Stiwdio gyda Nia Roberts ddod i ben yn yr hydref, mae’r orsaf wedi bod heb raglen gelfyddydol i bob pwrpas, ac mae Ffion yn edrych ymlaen at gamu i’r bwlch.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n fyw rhwng dau a phedwar o’r gloch bob prynhawn Sul, ac mae’r cyflwynydd yn awyddus i fynd ar ôl “y pethau sy’n torri tir newydd” ym myd y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.
Fydd y rhaglenni yn amrywio, gyda rhai’n canolbwyntio ar berson penodol er enghraifft, ac eraill yn cael eu darlledu o ddigwyddiadau celfyddydol. Bydd y rhaglen gyntaf yn dod yn fyw o Amdani, Fachynlleth!, sef gŵyl lenyddol ddwyieithog sydd wedi bod yn cael ei chynnal yn y dref ers 2021.
“Alla i ddim disgwyl i gychwyn a chael fy maneg mewn i bethau, cael deifio mewn i wahanol eitemau a chyfarfod llu o bobol ddifyr Cymru a thu hwnt gobeithio,” meddai Ffion.
“Mi fyddan ni’n trio adlewyrchu’n union be sy’n digwydd yn gelfyddydol yng Nghymru, a rhoi’r chwarae teg iawn i’r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r celfyddydau yn eang, a be sy’n grêt ydy y byddan ni’n gallu gofyn y cwestiwn yna, ei droi ar ei ben, a gofyn beth ydy celf? Beth ydy diwylliant? Fydd yna lot o straeon difyr fydd yn gofyn y cwestiynau hynny.
“Os ydy rhywbeth yn haeddu ei le, mae o’n haeddu ei le – be bynnag ydy o. Dw i eisiau mynd ar ôl y pethau yna sy’n torri tir newydd hefyd, dim jyst y pethau amlwg – dod ar draws artistiaid neu gyfranwyr newydd. Nhw ydy ein dyfodol ni.
“Un o’r pethau dw i’n edrych ymlaen ato fwyaf ydy cael sgyrsiau hir a dwfn efo pobol sydd wedi creu ein cynfas celfyddydol ni yma yng Nghymru, a thrio mynd dan groen y rhain i’r gynulleidfa gael dod i ddysgu be sy’n gwneud i rai o’r bobol yma dicio, be sydd wedi’u cymell nhw i greu.”
Mae’r rhaglen gyntaf yn argoeli i fod yn un llawn dop ac amrywiol, gyda “sgwrs dreiddgar” â’r awdur Mike Parker, fydd yn lansio’i nofel ddiweddaraf, All The Wide Border: Wales, England and the Places Between, yng ngŵyl Amdani, Fachynlleth!
“Mae hynna’n grêt, bod yna ŵyl lenyddol yn cyd-fynd efo’n rhaglen gyntaf ni,” meddai Ffion.
“Fyddan ni hefyd yn siarad efo’r gantores werin a’r chwedleuwr Catrin O’Neill o’r ŵyl. Dw i’n edrych ymlaen at wneud pethau felly, i gael trafod efo pobol ynghylch y gwyliau ar yr amser penodol hwnnw. Fydd hi’n neis ar y dydd Sul ein bod ni’n cael ychydig o deimlad yr ŵyl.”
Bydd y bennod gyntaf yn cyd-fynd â phenwythnos Gŵyl Delynau Cymru hefyd, a bydd Ffion yn chwarae recordiad o waith Catrin Finch ar ei rhaglen. Bydd sgyrsiau hefyd efo’r actorion Olwen Rees, Gaynor Morgan Rees a Valmai Jones, sydd wedi bod yn rhan o daith sioe gerddorol Tic Toc sy’n olrhain hanes criw o ferched fu’n cydweithio mewn ffatri.
“Mi fyddan ni’n trafod efo Gaynor Morgan Rees am berfformio a bod ar lwyfan wrth fod ychydig bach hŷn,” eglura Ffion.
“Fyddan ni’n trafod beth ydy’r rolau sydd ar gael i ferched hŷn ym myd y ddrama, oes yna ddigon o rolau ar gael a sut mae pethau’n newid wrth fynd yn hŷn, a sut mae dal i weithio wrth fynd yn hŷn, achos mae’r gofynion yn newid yn amlwg wrth fynd yn hŷn. Mae’r rhain yn ferched sydd dal i weithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, ac sydd wedi gwneud ers pedair i bum degawd a dal ar dop eu gêm. Fydd honno’n sgwrs ddifyr.
“Fyddan ni’n trafod y ffaith bod Oriel Martin Tinney yn dod i ben, ar ôl 30 o flynyddoedd mae o’n cau’r drysau. Mae’r oriel wedi bod yn rhywbeth sydd wedi mowldio’r byd artistig yng Nghymru ers 30 o flynyddoedd felly mi fyddwn ni’n cyfweld Rian Evans am hynny, ac mae’r artist Catrin Williams am fod yn ymuno efo ni’n fyw hefyd.”
Y diddordeb i ddysgu
Er bod y celfyddydau’n faes digon eang, mae Ffion wedi bod ynghlwm â sawl elfen o’r byd hwnnw dros y blynyddoedd, boed yn sgrifennu, sgriptio, cyfarwyddo neu actio.
“Dw i ddim yn honni fy mod i’n arbenigwr ar yr un ohonyn nhw, ond y diddordeb ydy’r peth mwyaf. Cyn belled bod gen ti’r angerdd a’r diddordeb, a be dw i’n ffodus ohono fo, mae’n siŵr, ydy bod fy nhroed i wedi bod mewn nifer o elfennau o’r celfyddydau ers blynyddoedd. Byd y ddrama’n amlwg sydd wedi bod yn fy niddori i, ac wedi rhoi gyrfa i fi ers tua thri degawd. Ond wrth gwrs rŵan dw i’n sgrifennu sgriptiau a llyfrau a hefyd yn cyfarwyddo theatr a theledu. Mae hwnna, gobeithio, yn rhoi’r ystod eang i mi. Pan mae hi’n dod at yr elfen gerddorol, dw i hefyd yn edrych ymlaen at ddysgu. Dw i ddim yn meddwl bod yna neb yn feistr ar unrhyw grefft, felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddysgu efo’r bobol yma sy’n creu o fy nghwmpas.”
Ffion ydy Cadeirydd Pyst hefyd, sef y corff ymbarél sy’n cynrychioli platfformau cerddorol a chreadigol Pyst ac AM ar y We.
“Mae’r brand hwnnw ar agor i bawb, does yna ddim elfen o gystadleuaeth mewn unrhyw ffordd,” meddai Ffion.
“Mae’r ffaith fy mod i’n gadeirydd arno’n mynd i weithio’n dda efo’r ffaith fy mod i’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol, a does yna ddim unrhyw wrthdaro buddiannau. Mae o’n help i wybod am artistiaid ifanc sy’n dechrau creu ac yn rhoi eu gwaith ar y platfform.”
Cynefino
Mae Ffion wedi ymuno â thîm Cynefin ar S4C yn ddiweddar, ac yn cyflwyno ochr yn ochr â Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen ar y gyfres newydd, ynghyd â chynhyrchu’r rhaglen deledu.
“Dw i ddim yn cymryd lle neb, dw i jyst yn ymuno efo’r tîm ffantastig,” eglura Ffion.
“Roedd S4C eisiau ychydig bach o wynebau newydd, achos mae o’n lot o waith i dri chyflwynydd, felly fe wnes i ymuno.
“Fe wnaethon ni gychwyn [y gyfres] efo rhaglen Llandudno. Roedd cael gwneud y rhaglen yn golygu lot i fi achos fe gafodd fy mam ei magu yno. Roedd hi’n neis i fi gael cynhyrchu a chyflwyno fy rhaglen gyntaf un o Landudno.
“Mae Cynefin yn rhoi agoriad gwych i [ddysgu am wahanol lefydd] a ffeindio cymeriadau difyr sydd gan wir ddiddordeb yn eu hardal, ac sydd wedi gweithio gymaint i wneud yn siŵr bod hanes eu hardal nhw’n cael y sylw haeddiannol. Mae hynny’n beth mor braf, dod ar draws y bobol yma sy’n awdurdod ar eu milltir sgwâr.”
Dolgellau ydy cynefin Ffion bellach, wedi iddi wneud y penderfyniad i symud i droed Cadair Idris yn barhaol yn ddiweddar ar ôl treulio bron i saith mlynedd yn teithio fyny a lawr yr A470 rhwng y dref a Chaerdydd.
“Mae o’n newid byd llwyr, dw i wrth fy modd, Mae’r llonyddwch a’r heddwch a chael bod ynghanol natur ar ochr mynydd yn dod â’i heriau – mae hi’n wyntog, yn oer ac yn wlyb yma – ond mae hi’n fendigedig yma.”
Rhoi pen ar bapur
Wedi cryn lwyddiant gyda’i chyfrolau cyntaf, gan ennill Llyfr y Flwyddyn y llynedd gyda’i nofel Mori, mae gan Ffion gyfrol newydd ar y gweill hefyd. Sgrifennu honno fydd yn mynd â’i hamser o ddydd i ddydd, ac mae hi’n egluro nad dilyniant i Mori fydd hi. Yn hytrach, bydd y llyfr newydd yn dychwelyd at y math o genre sydd i’w weld yn ei chyfrol gyntaf, Syllu ar Walia’ – genre’r memoir, neu’r lled-hunangofiannol, o fethu â dod o hyd i well disgrifiad.
“[Mi fydd hi’n] mynd yn ôl, mewn ffordd, i’r math o beth oedden i’n sgrifennu efo Syllu ar Walia’, ond yn wahanol iawn i Syllu ar Walia’. Mae hi’n mynd i gael llinyn storïol cryf ynddi, yn hytrach na phytiau o ran straeon. Mae hi’n mynd i fod yn un llif…
“Mae’r egin yna, mae gen i lyfrau nodiadau sy’n prysur lenwi ar hyn o bryd. Dw i wedi ffeindio wrth fynd yn hŷn bod gonestrwydd yn help garw yn bersonol ac i bobol uniaethu hefyd wrth ddarllen. Mi fydd [y llyfr] am newid byd, a ryw adlewyrchiad o le mae rhywun mewn bywyd a be mae rhywun wedi dysgu ar y daith.”