Doedd bywyd heb Gareth Bale ddim wedi dechrau’n dda. Fel fi, roedd rhaid i Brennan Johnson wylio Cymru yng Nghroatia o’i soffa, wedi i Nottingham Forest benderfynu fod o ddim yn ddigon ffit i deithio. (Roeddwn i wedi penderfynu fy mod i ddim yn ddigon ifanc i deithio.) Tybed a fydde Brennan Johnson wedi bod yn fwy penderfynol o droi fyny pe tasa Gareth yn disgwyl amdano ar yr awyren?