Gwnaeth Senedd Uganda gymeradwyo deddf newydd yr wythnos diwethaf fydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i bobl yn eu gwlad hyd yn oed eu disgrifio eu hunain fel pobl hoyw.

O’i chymeradwyo ymhellach gan Arlywydd y wlad, bydd pobl sy’n uniaethu’n hoyw yn gallu cael eu carcharu am oes. Gallai pobl sy’n gwrthod gwadu eu rhywioldeb eu hunain, ac sy’n datgan fwy nag unwaith eu bod yn hoyw, gael eu hystyried yn “multiple offenders” a gallen nhw gael eu dedfrydu i farwolaeth.