Byth ers i Andrew Tate gael ei luchio’n haeddiannol i garchar yn Rwmania rai wythnosau’n ôl, ac i’n heddluoedd gael eu beirniadu’n hallt am eu triniaeth o ferched ers tro, mae yna ryw deimlad bod pethau’n mynd i’r cyfeiriad anghywir o ran y ffordd mae dynion yn gweld merched.

Bydd hynny ddim yn syndod i ferched, dw i’n siŵr. Ond ychydig yn ôl fe ryddhawyd pôl mawr gan YouGov ar yr union bwnc. Roedd y canfyddiadau’n bryderus.