Mae hi’n dod o hyd iddo yn y lluwch o bapurau yn nrôr ei desg, rhwng cyfrifon treth 2015 a nodiadau blêr o gyfarfod diflas a ddigwyddodd yn ei swydd ddiwethaf, lluniau bychain ballpoint o wynebau a blodau a phatrymau ar rimyn y papur. Mae’r papur arall wedi ei wasgu rhwng y ddau, fel sbwriel ond eto’n hollbwysig, rhyw dro, efallai.