Cwestiwn cwiz bach blasus i anoracs y byd chwaraeon: pryd oedd y tro diwethaf i gapteiniaid y timau pêl-droed a rygbi ill dau fod yn medru siarad Cymraeg?

Ers i Gareth Bale ymddeol mae Aaron Ramsey wedi dod yn gapten y tîm pêl-droed cenedlaethol a braf ei weld yn parhau i wneud cyfweliadau Cymraeg cyn y gemau rhyngwladol yn erbyn Croatia a Latfia.