Taith i Nepal wnaeth sbarduno diddordeb seiciatrydd plant o Ynys Môn yn y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a diwylliant.

Bellach yn ymgynghorydd seiciatreg plant, roedd Dr Olwen Payne yn ganolog i raglen ddogfen ar S4C yn ddiweddar yn ystyried a ydy’r pethau unigryw sy’n ein gwneud ni’n Gymraeg yn cael dylanwad ar ein hiechyd meddwl.