Wrth ddilyn gradd Celf yn ei 60au, roedd Eilian Williams hefyd yn gweithio ar achos o lofruddiaeth bwa croes…

‘Mi wnei di lwgu. Ffeindia job, a gwna fo yn dy amser sbâr.’ Dyna oedd cyngor tad Eilian Williams iddo ar ôl i’r llanc orffen ei Lefel O yn yr ysgol, a dweud ei fod eisiau mynd i baentio.