Rydw i’n gwylio’r rhan fwyaf o fy mhêl-droed y dyddiau yma yn nhrydedd adran system Cymru. Hynny yw, Cynghrair Ardal y Gogledd Orllewin. Ar ôl cyfres o ddyrchafiadau mae tîm fy mhentref, y Felinheli, wedi ymuno â chlybiau bach cyfarwydd fel Dyffryn Nantlle, Llanrwst, Llai a Brickfield. Ond hefyd yn y Gynghrair, mae yna ychydig o glybiau byse ddim yn edrych allan o’u lle yn Uwch Gynghrair Cymru.