Wrth i’r oedi (a’r pris) gynyddu eto ar gyfer rheilffordd gyflym HS2, mae gwleidyddion Cymreig ar y cyfan wedi bod yn dawel iawn ynglŷn â’r cam anferth, dirmygus, sy’n cael ei wneud â Chymru.

Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ydi un o’r ychydig eithriadau, yn dweud eto y dylai’r prosiect gael ei ystyried yn un ar gyfer Lloegr yn unig, yn hytrach nag yn un sydd hefyd o fudd i ninnau.