Roedd hi’n ddiwrnod poeth, er nad oedd unrhyw un yn sylweddoli hynny – roedd bob dydd yn ddiwrnod poeth erbyn hynny. Teimlai aer yr ystafell ddosbarth yn drwchus gyda gwres a sawrau gormod o gyrff mewn lle rhy fach: chwys; persawr; gwallt oedd angen ei olchi.

“Hisht rŵan,” meddai Ms Davies wrth wasgu’r botwm ar waelod y sgrin fawr ym mlaen y dosbarth. Bywiogodd y sgrin yn hirsgwar hardd o wyrddni, a chyffrôdd hanner y disgyblion, a chwynodd yr hanner arall.