Mi oedd wythnos diwethaf yn un o’r wythnosau mwyaf unigryw fy ngyrfa hyd yn hyn. Roedd gyda fi dair sioe ymlaen yn Llundain yn yr un wythnos.

Doedd hyn ddim yn rhywbeth roeddwn i wedi ei osod fel nod i fy ngyrfa, ond y flwyddyn ddiwethaf roeddwn i’n benderfynol o gael mwy o sioeau yn digwydd yn Llundain ac ehangu fy ngwaith i fod tu allan i theatr y Royal Court.

Y sioe gyntaf, wnaeth orffen dros y penwythnos, oedd Graceland (y gwnes i sôn amdani yn fy ngholofn ddiwethaf).