Wrth i Blaid Cymru gyhoeddi ei strategaeth, mae’r drafodaeth yn yr Alban yn berthnasol… a ydi grym seneddol yn ddigon?
“Yn ogystal â Senedd bwerus, rhaid i Alban sy’n ennill mwy a mwy o hunanlywodraeth, gael yn ei chanol ddiwylliant ehangach o ymwneud cyhoeddus, trafod, ystyried a dadlau sy’n bwydo gwleidyddiaeth pleidiau ond yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny i rannau eraill o gymdeithas. Mae hyn wedi bod yn amlwg trwy ei absenoldeb yn ddiweddar… ac un o’r rhwystrau i fynd i’r afael ag e yw ceidwadaeth ac awydd yr SNP i reoli pethau. Does unman lle mae’r SNP i’w gweld yn deall efallai bod hyrwyddo hunanlywodraeth ac annibyniaeth yn cynnwys meithrin diwylliant cyhoeddus…” (Gerry Hassan, bellacaledonia.org.uk)
Os ydi Gerry Hassan yn gweld y diffyg yna’n arwain at anoddefgarwch, mae darlun John Dixon o weddill gwledydd Prydain yn dduach fyth…
“…mae’n ymddangos weithiau bod y llywodraeth [yn San Steffan] yn gwneud ei gorau i ddynwared Rwsia Sofietaidd. Nid dim ond prinder o un peth ac wedyn un arall; mae yna deimlad cyffredinol o ddirywiad, teimlad nad oes dim yn gweithio bellach… Mae’r disgwyliad y bydd fory yn debyg iawn i heddiw yn gwreiddio’n ddyfnach a dyfnach ym meddwl y bobol, wrth i’r gobaith am well yfory gilio hyd yn oed ymhellach i’r dyfodol. Ac fel y sylweddolodd yr elît yn Rwsia… mae gorfodi pobol i ganolbwyntio ar gadw corff ac enaid ynghyd yn frechlyn hynod o effeithiol yn erbyn protest a gwrthwynebiad.” (borthlas.blogspot.com)
Os ydi Ben Wildsmith yn gywir, mi fydd pethau’n gwaethygu i rai, diolch i’r gweinidog Ceidwadol, Michael Gove…
“Awgrym Gove yw y dylai rhieni plant sy’n colli ysgol yn gyson golli eu budd-daliadau. Tra bod hyn fel petai’n dod o lyfr emynau treuliedig y Toris… mae fersiwn neilltuol Gove ohono yn ddadlennol. I ddechrau, mae gyda ni’r dybiaeth ddiofal fod rhieni plant sy’n chwarae triwant yn ddibynnol ar fudd-daliadau… A phetaen ni’n derbyn ei haeriad fod triwantiaeth yn codi o dlodi, mae ei ateb am wneud tlodi’n waeth. Felly, mewn cystadleuaeth glos, mae gwobr yr enghraifft orau o lywodraethiant y Torïaid yn mynd i Michael Gove…” (nation.cymru)
Ond, na hidiwch, mae dyddiau gwell ar y ffordd… wel, un diwrnod o leia’ yn ôl Dafydd Glyn Jones, sydd eisiau gweld elfen Gymreig yn seremoni Coroni Carlo…
“Oherwydd y berthynas glos a chynnes rhwng y pâr brenhinol a Chymru, mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu heneinio ar y diwrnod mawr ag Oel Morys Ifans. Fel y gosododd Iolo Morganwg i lawr mewn deddf, mae’r hylif bendithiol hwn (y peth gorau at gryd cymalau) i gael ei gysegru ym Mlaenau Ffestiniog, dan lafarganu Gweddi’r Orsedd, gan Archdderwydd Cymru, ac yn bresennol hefyd Batriarch Caersalem a chynrychiolaeth o’r holl gyrff Protestannaidd Cymreig. Ac fel y melyswyd yr olew olewydd yn y Tir Sanctaidd â joch o ddwfr rhosyn ac un neu ddau o bethau eraill, felly mae Olew Morys i gael ei bereiddio â llond ecob o ddiod cyrains duon cartref a llond gwniadur o Win Hors Radish Harri Mul.” (glynadda.wordpress.com)