Cyngor Sir Conwy sydd ar frig y tabl pan ddaw hi at gynyddu Treth y Cyngor eleni.

Mae’r dreth am godi 9.9% yno, a dyma’r cynnydd mwyaf swmpus yn y wlad.

Cyngor Dinas Casnewydd sydd yn yr ail safle gyda chynnydd o 8.5%.

A thra bo’r canrannau yn ddifyr, be’n union maen nhw yn ei olygu mewn pres go-iawn?

Bydd bil Treth y Cyngor i rywun yn byw mewn cartref band-D yn Sir Conwy yn £1,580.53 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf sy’n cychwyn ym mis Ebrill.