Beddgelert. Paul McCartney. Efallai ddim y geiriau cyntaf fydda rhywun yn eu cysylltu. Gan gyrraedd Rhif 3 yn y Siartiau Prydeinig yn 1984, y gân ‘We All Stand Together’ neu ‘Frog Song/Frog Chorus’ gan McCartney yw’r ddolen gyswllt yn y stori sydd yn dod â Paul a’r teulu i dreulio amser ym Meddgelert. Ymweld â’r darlunydd a’r ysgrifennwr Alfred Bestall oedd McCartney – ymweliad wnaeth ei ysbrydoli i gyfansoddi ‘We All Stand Together’. Bestall oedd yn gyfrifol am storïau Rupert Bear yn y