Mae yna gêm barti plant yn cael ei chynnal ar hyn o bryd a llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei harwain.

‘Gêm newid cadeiriau’ ydi hi, neu musical chairs, a phobol gyffredin fel chi a fi sy’n chwarae, ond eu bod yn dod o wledydd tlotach na ni. Gwledydd mawr y Gorllewin sydd wrth y piano a Rishi Sunak a Suella Braverman yn galw.