Yn y byd sydd ohoni – gwleidyddiaeth werdd, twymo byd eang ag ati – gellir awgrymu mai peth dewr yw agor bwyty sy’n brolio’r cig mae’n ei weini – ac sy’n gweini dim byd ond cig.
Onid yw’n darged i gyrff megis PETA a llysieuwyr radical? A fydd tarfu ar fwynhad y cwsmeriaid wrth i griw o feganiaid ymgynnull y tu cefn iddynt, gan eu cyhuddo o lofruddiaeth?
Ond bwyty i gîg garwyr yw Pasture, bwyty gweddol newydd yng Nghaerdydd. Mae’n ymuno â bwytai megis Miller and Carter ac Asador 44, sy’n canolbwyntio ar gig eidion yn bennaf. Mae’n fwyty adain dde (os yw’r fath beth yn bosib).
Mae Pasture wedi ei leoli ar yr Heol Fawr, estyniad i Heol Eglwys Fair, sy’n ymestyn o siop Greggs tuag at y castell. Dyma party-central Caerdydd. Dyma ardal sy’n llawn bwytai a chlybiau nos. Mae’n trawsnewid o’i ddelwedd barchus gyda’r dydd – caffes swancus megis Barkers a mynediad i arcedau crand y ddinas – i le digon gwyllt gyda’r nos.
Bryd hynny mae’r goleuadau neon fel lampau yn denu gwyfynod. Ac o bob cyfeiriad daw pobl ifanc y ddinas a’r Cymoedd i fwynhau noson mas. Y merched mewn grwpiau hapus, yn eu ffrogiau parti – heb fenig, sgarff na chôt yn oerfel y gaeaf. Yn cario’u sodlau-uchel o glwb i glwb. A’r dynion yn eu crysau gwyn a’u sgidie sgleiniog.
Dyma ble mae Pasture yn byw. Yn dyst arall i lwyddiant y ddinas wrth iddo drawsnewid, yn oes Amazon a’r We, o ganolfan siopa i ganolfan fwynhau. Mae yna lawer ohonom yn mynd i’r dref, ond prin y gwelwch yr un ohonom yn cario llwyth o siopa.
I mewn â ni.
Mae’r bwyty’n weddol dywyll. Mae’r ddelwedd yn ôl-ddiwydiannol. Y waliau’n frics a choncrit; pibelli’n crwydro’r nenfwd – a mwy o oleuadau neon. Un yn datgan: Fire Meat Music – ac yn sicr, mae’r gerddoriaeth yn chwarae’n uwch na’r arfer mewn bwyty. Ni fydd hyn at ddant pawb – ond mae’n ychwanegu at y teimlad o fod yng nghanol bwrlwm y ddinas. Mae’r lle yn debycach i seler gudd a pheryglus na lle i ymlacio. Ond seler lân iawn.
Un o’r pethau mwyaf syfrdanol yw’r rhewgell enfawr, sy’n wydr i gyd. Ac yn gartref i’r cig sy’n hongian ac yn aeddfedu. Mae’n debyg i waith Damien Hirst.
A dyma brif neges y bwyty: Rydym ni’n aeddfedu ein cig am 35 diwrnod – er mwyn sicrhau blas gwych.’
Yr ail neges yw: ‘Rydym ni’n ei brynu’n lleol, o siop Oriel Jones – sy’n gwerthu cig ffermydd Cymreig. Mae bwyd lleol yn frenin, wrth gwrs, ym myd y gourmet cyfoes.
Mae’r bwyty yn brysur. Mae’n nos Lun ond mae’r lle’n llenwi. Mae gan Pasture enw da. Mae Pizza Express, gyferbyn, yn wag.
Ym mhendraw’r bwyty mae’r gegin agored. Dynion mewn cotiau gwyn yn gosod y cig ar y tân. Yn coginio’r cyfan ‘just-so’: rare, medium rare, medium... Mae’n f’atgoffa o gegin Swelter yn Gormenghast.
Mae’r gwaith pwysig o fwyta’r cig yn digwydd o’n cwmpas. Wedi’r cyfan, lladdwyd tair buwch ar ein cyfer, heno – ac mae angen canolbwyntio ar y dasg o’u blasu. Mae yna ogla da yma. Mae’r lle yn sizzlo.
Mae’r staff yn ifanc ac yn brysur. Ein gweinydd yn dod o’r Eidal ac yn astudio yn y brifysgol. Yn gwrtais a llawn brwdfrydedd.
Mae yna win ar gael, rhwng £22 a £780 am botel. Dyna chi ice-breaker go dda – cyfle i gael sgwrs am bwy, yng Nghaerdydd, sy’n gallu talu £780 am ei win. Drug-dealers, mae’n debyg. Cawsom Merlot Les Foncanelles am £22. Roedd yn hollol yfadwy ac yn gymar da i’r bwyd.
Y bwyd
Dechreuais gyda’r Ash Baked Beetroot. Er bod modd blasu’r mwg (dim ond jest) roeddwn wedi disgwyl betys wedi’u pobi yn hytrach na wedi eu piclo. I mi, roedd presenoldeb y finegr yn cuddio’r mwg – a daearoldeb y betys. Cafodd fy ffrind Char Siu Pork Belly gyda puffed crackling a sauerkraut. Dewis da oedd hwnna – y cig yn dyner a chanddo flas cryf. Megis uwch-borc gyda dwywaith y blas. Sut mae gwneud hynny, tybed?
Y prif gwrs. Stêc ffiled i mi. Am reswm na fedraf ei esbonio gofynnais am medium rare – ond roedd stêc rare fy ffrind (A) yn rhagori – o bell ffordd. Os mai dyma sy’n digwydd wrth adael i’r cig hongian am 35 diwrnod, yna mae’n wyrthiol. Tyner, gyda blas gwych, melys, sawrus, cyfoethog – ac yn llawn sudd. Roedd y saws corn pupur yn gymer perffaith iddo. Yn y cyfamser roedd syrlwyn ffrind arall (B) ymhlith y gorau a flasais erioed. Rwy’n deall, o’r diwedd, yr holl sôn am bwysigrwydd braster wrth ychwanegu at flas y cig. Yum.
Doedd y Baked Mash with bone marrow gravy a ddewisiais ddim cystal â Truffle Chips fy ffrind A. Yn y bôn, rhyw fath o shepherd’s pie oedd y mash (nid rhywbeth y byddwn yn ei ddewis i fynd gydag unrhyw stêc). Ond byddwn yn hapus i fwyta’r Truffle Chips bob dydd o’r wythnos. Sglodion yn blasu o dryfflau! Moethusrwydd crensiog!
A phlât o lysiau gwyrdd tywyll – yn morio mewn menyn – ac yn beth hyfryd i’w fwyta… os oes rhaid bwyta llysiau o gwbl, yn y deml hon i gig eidion.
Rwyf ar ddeiet, felly dim pwdin i mi. Ond roedd ffrind A wrth ei fodd â’i Chocolate Dome gyda chocolate cremeux, hazelnut marshmallow, raspberry, a molten caramel sauce. Melys, gludiog a phechadurus.
Fe fyddwn yn hapus iawn i gael dychwelyd yma – ac rwy’n edrych ymlaen at wneud.
£156 i dri, gan gynnwys y gwin.
Pasture: 8-10 Heol Fawr, Caerdydd