Wel, daeth tro bach annisgwyl ar fyd ers i fi ysgrifennu’r pwt bach diwethaf.

Ar ôl penwythnos digon annifyr o boenau ysbeidiol yn y stumog, cyrhaeddodd pethau eu penllanw Nos Sul, gyda noson o boen cyson a digon difrifol i ‘nghadw i’n effro drwy gydol y nos.

Roedd hi’n noson erchyll a dweud y gwir.