Ar y cyfan, yr unig reswm fydda i’n mynd i ganol Caerdydd ydi i bonsio rownd y farchnad am ryw awr, yn cael tamaid i’w fwyta a busnesu ar y cig a’r llysiau. Fel sawl un arall sy’n byw yng Nghaerdydd, dwi’n ddigon call i wybod mae gwell yw osgoi canol y ddinas ar ddiwrnod gêm. Mae’n rhy brysur ac yn rhy flêr imi erbyn hyn, y nofelti wedi hen ddiflannu.