Mae rhai wedi dadlau yn ddiweddar y dyle Paul Mullin gael ei gynnwys gan Rob Page yng ngharfan bêl-droed nesaf Cymru. Mae rhai eraill yn dadlau bod Mullin, sydd efo Nain Gymreig, yn chwarae ar lefel llawer rhy isel gyda Wrecsam i fod yn cael ei ystyried yn chwaraewr rhyngwladol.