Mae bwrdd iechyd y gogledd nôl mewn mesurau arbennig eto, fel y bu rhwng 2015 a 2020.

Fe gafodd bwrdd iechyd mwyaf Cymru ei greu yn 2009 gan Lywodraeth Cymru, a byth ers hynny bu edliw ei fod yn rhy fawr i’w reoli yn gall.

Un peth sydd ddim yn gall yw enw swyddogol y peth – ‘Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’.