Er mai blwyddyn sydd wedi bod ers i Rwsia gychwyn y rhyfel, mae elusen Achub y Plant wedi bod yn gweithio yn Wcráin ers 2014.

Yma mae Eurgain Haf, Uwch Reolwr y Cyfryngau Cymru Achub y Plant, yn egluro mwy am waith yr elusen yno.

Ond yn fwy na dim, mae hi’n holi mamau sydd wedi ffoi yma er mwyn diogelu eu plant rhag y rhyfel.