A hithau’n Hanner Tymor, mae mwy wedi bod yn manteisio ar y cyfle i grwydro’r Glyderau, sef y mynyddoedd creigiog sy’n ymestyn o Fynydd Llandygai i Gapel Curig yn Eryri.

Mae’r gair ‘glyder’ yn deillio o ‘cludair’, sy’n golygu twmpath o gerrig.

Mae’r cwpwl yn y llun yn sefyll ar graig adnabyddus y Gwyliwr sydd ar fynydd y Glyder Fach.