Ceir lot o straeon cadarnhaol iawn am yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Boed yn y byd chwaraeon gyda gwaith caled y Gymdeithas Bêl-droed a llwyddiant ‘Yma o Hyd’; yn y byd cerddorol gydag artistiaid fel Gwenno, Adwaith ac Alffa yn gadael eu marc y tu hwnt i ffiniau traddodiadol yr iaith; neu ym myd teledu gyda phoblogrwydd a llwyddiant ffrydio dramâu fel Y Gwyll a Craith dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fwy diweddar, Dal y Mellt.