Ar y gorau, mae’n anodd deall y farchnad ynni a’r ffordd y mae ein biliau trydan ynghlwm, rywsut, wrth brisiau nwy… hyd yn oed y rhai ohonon ni sydd i fod yn derbyn trydan o ffynonellau gwyrdd.

Nwy ydi’r tanwydd druta’ ac, felly, yn amlwg, mae cwmnïau trydan sy’n cael eu hynni trwy ddulliau eraill yn ennill crocbris. Ac nid nhw ydi’r unig rai.