Gyda’r newyddion bod Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau nad yw corau gwadd i berfformio cân Tom Jones, ‘Delilah’, yn ei gemau rygbi rhyngwladol, aeth carfan o’r boblogaeth i bwll o ddicter.

Cafwyd dadlau digon tanbaid yn erbyn y penderfyniad. A bod yn deg, doedd y mwyafrif ddim yn gallu mynd ymhellach na defnyddio’r geiriau “bonkers”, “woke” a “snowflake” mewn gwahanol gyfuniadau. Ond fe geisiodd ambell un resymoli pam roedden nhw mor grac.