Rhwng trafferthion Undeb Rygbi Cymru oddi ar y cae a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau’r penwythnos diwethaf, mae rygbi ym mhob man ar hyn o bryd. O gemau’r prif dîm a’r tîm dan ugain i ffwlbri arteithiol rhaglen Jonathan ac un stori ar ôl y llall ar y Newyddion, mae’n anodd osgoi’r bêl hirgron.