Mae yna rywbeth egsistensial iawn am yr amser yma o’r flwyddyn. Wn i ddim amdanoch chi, ond mae fy ffocws ar ddechrau blwyddyn yn troi o’r byd-eang i’r personol – fy niddordeb tanbaid yng ngwleidyddiaeth a’r pethe yn mudlosgi am sbel wrth i mi falio mwy am y domestig a’r dyddiol.

Un cwestiwn mawr sydd ar fy meddwl, bob Chwefror. Cwestiwn fydda i’n ceisio ei osgoi, neu o leia sleifio heibio iddo tan i optimistiaeth ddi-hid y Gwanwyn gydio ynddof fi: Pwy ydw i?