Rwy’n siŵr fod darllenwyr brwd Golwg wedi bod wrthi’n dathlu pen-blwydd Brexit yn ddiweddar.

Ar 31 Ionawr 2020 gadawodd Prydain yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol – a gallaf ddychmygu’r holl hwyl a sbri a gafwyd gennych wrth rannu straeon am waith arwrol Boris a Nigel wrth iddynt ein darbwyllo i adael.

Neu falle ddim…