Yn ddiweddar fe gafodd union leoliadau gemau nesaf Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop eu cyhoeddi a dydy pawb ddim yn hapus gyda’r newyddion. Bydd Cymru yn wynebu Croatia yn Split ym mis Mawrth ac yn teithio i Sansum, dinas borthladd yng Ngogledd Twrci, ym mis Mehefin.

Nid yw’r un o’r ddwy ddinas yn hawdd i’w cyrraedd. Wel, dim mor hawdd â llefydd eraill yn y gwledydd yna. Byse hi’n rhatach ac yn llai cymhleth i deithio i Zagreb ac Istanbwl, er engraifft.