Dwi’n rhy hen, ac yn rhy surbwch, i fod ar TikTok. Anodd gen i ddeall sut y gallai unrhyw un fod yn gyfforddus arni, hithau’n ddull effeithiol a gydnabuwyd i lywodraeth Tsieina i ddata-gloddio. Pobl ifanc (a rhai hŷn) yn bod mor anniddorol â phosib ydi hanfod y peth, yn benodol drwy ddawnsio i ganeuon neu drosleisio uffernol. O gofio bod eu cenhedlaeth nhw’r un sy’n yfed lleiaf ers llwyr-ymwrthodwyr y capeli’n y 19fed ganrif, mae’r peth yn od. O leiaf fod yna amddiffyniad i fod yn crinj wrth fed