Ym myd y ffilmiau rydyn ni ym mherfeddion oes y remakes, neu reimagining fel mae sawl un yn hoff o ddweud. Byddai hyn ddim o reidrwydd yn beth rhy ddrwg petai’r ffilmiau yma yn dda, neu’n cymharu’n ffafriol â’r gwreiddiol (heb o reidrwydd fod cystal), na phe na baem mewn oes lle mae ffilmiau’n dibynnu ar ail-greu neu ail-ddychmygu yn hytrach na gwneud y pethau newydd. Maen nhw’n felltith.