Mae perthynas gwahanol rannau o’r ‘Deyrnas Unedig’ yn dal i achosi poendod i’r blogwyr, yn fwy fyth yn sgil penderfyniad Llywodraeth San Steffan i atal yr Alban rhag pasio ei deddf ei hun ym maes hawliau pobol draws. Ar theconversation.com, roedd yr arbenigwr o Brifysgol Bangor, Stephen Clear, yn dadansoddi’r effaith…

“… mae’r berthynas weithio rhwng gwahanol lywodraethau’r Deyrnas Unedig dan bwysau newydd…yn hytrach na dod i gyfaddawd gwleidyddol trwy gydweithio rhwng llywodraethau, mae Llywodraeth y DU wedi ymateb trwy ddibynnu ar ei thra-arglwyddiaeth ym maes cyfraith… mae [Mark] Drakeford wedi galw’r defnydd o rym cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth yr Alban yn ‘llethr lithrig’, gyda Llywodraeth y DU yn gynyddol ddibynnol ar reolaeth gyfreithiol yn hytrach na pharch a thrafod.”

Yn yr Alban, maen nhw wedi bod yn cofio un o’r meddylwyr mwya’ yn y maes yma, Tom Nairn, a fu farw yn 90 oed. Roedd wedi rhagweld cynnydd cenedlaetholdeb annelwig yn Lloegr a hyd yn oed symudiad fel Brexit, gan weld gwreiddiau chwalfa’r ‘Deyrnas Unedig’ yn ei gwreiddiau hi…

“Awgrymodd fod y Deyrnas Unedig yn ei hanfod yn wladwriaeth ffiwdal ddwys, nad oedd wedi llwyr ddianc rhag crafangau [brenhiniaeth] absoliwt na chofleidio gofynion a chyrhaeddiad democratiaeth. Elfen o hyn oedd y ffaith na chafodd y DU erioed chwyldro bourgeois llawn i ddisodli grym yr aristocratiaid; yn hytrach, cafodd grym cynyddol y bourgeoisie ei dderbyn o fewn y system economaidd a’r drefn ddemocrataidd oedd yn bod eisoes… mae’r wladwriaeth frenhinol wedi ei defnyddio, i ddechrau i lyncu a dofi’r grymoedd blaengar yn yr ugeinfed ganrif ac, yn ail, i fod yn gatalydd ar gyfer yr ail-ddosbarthu grym a ddigwyddodd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ar hugain, ac sydd wedi ystumio ac aflunio cymdeithas, gobeithion bywyd a chyfleoedd.” (Gerry Hassan ar bellacaledonia.org.uk)

Ac os oedd rhai fel Tom Nairn yn iawn ac y bydd yr Alban yn gadael y ‘Deyrnas Unedig’, yn ôl Dafydd Glyn Jones, mi fydd Cymru’n wynebu cwestiwn mawr hefyd…

“Craidd y mater. OS bydd yr Alban yn mynd, darfydded sôn am ‘dorri’n rhydd o Brydain’, ‘Cymru’n annibynnol ar Brydain’ ac felly ymlaen. Oherwydd, yn gyfansoddiadol, ni bydd Prydain i fod yn annibynnol arni. Yn hanesyddol, fel yn ddaearyddol, bydd Prydain siŵr iawn, ond ni bydd y wladwriaeth unedol yn bod, neu a’i roi fel arall ni all Lloegr ymrithio mwyach fel Prydain Fawr... Y cwestiwn ger bron y Cymro fydd, neu ddylai fod: NID ‘wyt ti am i Gymru ddal i berthyn i Brydain?’ OND ‘wyt ti am i Gymru barhau’n rhan o LOEGR fel y bu oddi ar Ddeddf 1536, YNTEU a wyt ti am i Gymru fod yn wladwriaeth gyfartal â Lloegr, yr Alban ac Iwerddon?’… I gael trwch y Cymry i ddechrau deall eu sefyllfa, bydd angen ANDROS o ymgyrch. A oes gennym yr adnoddau? (glynadda.wordpress,com)