Mae’r artist adnabyddus wedi cael llond bola ar ddarlunio Jacob Rees-Mogg a’i giwed…

Mae’r artist Iwan Bala wedi penderfynu ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i greu cartwnau grotèsg o wleidyddion cyfnod Brexit a Covid.

Penderfynodd droi’n ôl i’r math o gelf y mae’n adnabyddus amdani – gweithiau sy’n trin a thrafod ein traddodiad llenyddol a chyflwr y genedl.