Mae Brexit yn cael ei ben-blwydd yn dair oed – ond nid pawb sy’n dathlu ymadawiad gwledydd Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Teg dweud nad yw pethau wedi bod yn ticetibŵ i Brydain yn yr amser hwnnw.

Ac yn ôl yr arbenigwr pleidleisio John Curtice, ar gyfartaledd mae arolygon barn bellach yn awgrymu y byddai 57% o bobol gwledydd Prydain yn pleidleisio i ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd.