Awydd i “gwffio am ddyfodol gwell” yw’r rheswm mae Catrin Wager yn gwleidydda.

Y ddynes o Ddyffryn Ogwen sydd wedi cael ei dewis i gystadlu am sedd Arfon yn Senedd San Steffan ar ran Plaid Cymru, pe bai yna etholiad brys yn cael ei alw.

Bu drwy broses ddethol yn dilyn cyhoeddiad Hywel Williams, yr Aelod Seneddol presennol, nad yw’n bwriadu sefyll etholiad eto.

Catrin Wager fydd yr ymgeisydd hyd at Orffennaf 1, pan fydd ffiniau newydd San Steffan yn cael eu mabwysiadu.