Mae Joe Ledley wedi bod yn dysgu siarad Cymraeg…

Does dim dwywaith fod Joe Ledley yn dipyn o arwr cwlt yn ei ddydd. Ac mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru ar fin codi’i broffil unwaith eto yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, wrth roi cynnig ar ddysgu Cymraeg yng nghwmni sylwebydd blaenllaw.