Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer y stori yma, i bawb gael mwynhau mymryn o gylchgrawn Golwg am ddim…
Bob mis Ionawr ers pedair blynedd mae criw o ffrindiau o Arfon yn rhoi’r gorau i alcohol ac yn cwblhau heriau corfforol, ac yn codi arian at achos da i’r fargen.
Eleni, yr her i’r hogiau oedd llosgi 500 o galorïau yr un, ym mhob un o 31 diwrnod mis Ionawr, er mwyn codi arian at Beiciau Gwaed Cymru, sef yr elusen sy’n cludo gwaed ar gefn motobeics o ysbyty i ysbyty yn ôl yr angen.
Mae’r criw o ffrindiau gorau sydd “fel arfer yn mynd i’r pub” efo’i gilydd, ond sy’n penderfynu cadw draw ar gychwyn blwyddyn, wedi bod allan ymhob tywydd gan losgi 124,000 o galorïau rhyngddyn nhw – digon i losgi 16 kilogram o fraster, neu un Wolverine.
Y tro hwn, mae’r wyth – Iwan Fôn, Cai Gruffydd, Mathonwy Llwyd, Siôn Gwyn, Siôn Hywyn, Iwan Llŷr, John Davies a Tomos ap Dan – yn awyddus i barhau â’r ffordd o fyw wedi diwedd y mis, cymaint ydy buddion mis o ymarfer corff cyson a dim cwrw.
“Mae’n dda bod o’n disgyn ar fis Ionawr,” meddai Iwan Fôn, canwr 30 oed Kim Hon a’r actor sy’n portreadu ‘Jason Hardy’ ar Rownd a Rownd.
“Fel lot o bobol, rydyn ni i gyd efallai’n gor-fwynhau dros y Dolig, yn bwyta lot. Ac yn fwy na dim, yn yfed dipyn. Felly erbyn mis Ionawr ti’n barod amdano fo.
“Dw i’n gweld fy hun yn gallu codi’n haws yn bore. Mae diet rywun yn newid hefyd, gan bod gen ti ddim hangover ti ddim yn mynd i chwilio am carbs gymaint y diwrnod wedyn. Mae dy ddiet di’n naturiol yn mynd yn iachach. Mae hi’n neis cael mynd allan i’r awyr agored a chael dy orfodi i fynd allan, mae o’n dda i’r iechyd meddwl. Mae’n dda cychwyn y flwyddyn yn gwneud rhywbeth fel hyn, dw i’n meddwl.
“Y tric ar gychwyn [Chwefror] ydy peidio mynd syth at y botel a mynd i yfed yn wirion, a chario ymlaen i fynd allan a gwneud ymarfer corff.
“Pan rydyn ni’n gorffen y mis [heb yfed], fel arfer fyddan ni’n mynd allan am ddrincs efo’n gilydd, a ti’n gweld dy hun ddim yn gallu dal dy ddiod cweit mor dda am dipyn bach. Ond digon buan mae rhywun yn mynd yn ôl mewn i habits. Flwyddyn yma, dw i’n bersonol yn gobeithio fydda i’n gallu parhau i gadw’r arferion da i fynd.”
“Ymestyn o ymlaen i fis Chwefror”
Mae pedwar o’r criw yn aelodau o Kim Hon, band sydd newydd ryddhau fideo gerddoriaeth i’r gân ‘Interstellar Helen Keller’, y sengl gyntaf oddi ar eu halbwm gyntaf fydd allan yn yr haf. Aelod arall sy’n gweld buddion yr her ydy Siôn Gwyn, sy’n ddyn camera ac yn chwarae’r gitâr a synths i’r band.
“Mae pawb yn mynd dros ben llestri dros Dolig efo’r yfed a’r bwyta, felly mae mis Ionawr wastad yn kickstart bach da i’r flwyddyn, i beidio yfed am fis,” cytuna Siôn sy’n 24 oed.
“Be’ sy’n eithaf annoying amdano fo ydy dy fod di’n gweld y manteision erbyn diwedd y mis, yn fwy na’r dechrau neu’r canol, wedyn erbyn mis Chwefror mae pawb yn ôl yn pub. Ond ti yn teimlo gymaint gwell, mae dechrau dy wythnosau di lot fwy productive.
“Rydyn ni wastad wedi bod yn ôl ym mis Chwefror a jyst wedi yfed mwy er mwyn gwneud fyny, [gyda’r agwedd] ‘Rydyn ni wedi cael mis ffwrdd, felly mae hi’n iawn i ni yfed mwy mis yma’.
“Ond dw i’n gwybod bod lot o’r hogiau’r flwyddyn yma’n meddwl ymestyn o ymlaen i fis Chwefror, jyst achos bod effaith peidio yfed yn dod i’r amlwg erbyn diwedd mis Ionawr. Mae pobol yn dechrau teimlo’n well erbyn mis Chwefror.
“Mae pawb efo pethau personol… mae fy mrawd i’n priodi ym mis Ebrill, a dw i’n gwybod fy mod i eisiau cario ymlaen i wneud yr ymarfer corff achos fydda i’n teimlo’n well. Mae pawb efo’r un meddylfryd o fod eisiau cario ymlaen a pheidio stopio’r ymarfer corff yn llwyr ar ôl mis Ionawr. Ar ôl Covid mae pawb fwy agored am bethau, mae iechyd yn dod gyntaf. “Ond, mae’n siŵr gawn ni gwpwl o beints efo’n gilydd ar benwythnos cyntaf Chwefror.”
Er mwyn codi mwy o arian i Beiciau Gwaed Cymru, mae’r criw wedi trefnu gig yn Nhŷ Glyndŵr yng Nghaernarfon nos Sadwrn yma, 4 Chwefror, gyda Kim Hŵr Doeth (Kim Hon a 3 Hŵr Doeth) a gwestai arbennig, gyda chroeso i unrhyw un ymuno i ddathlu diwedd yr her.
Gwobrwyo gwaith di-ddiolch
Cafodd y criw gwreiddiol y syniad eu bod nhw awydd gwneud her ffitrwydd gyda’i gilydd yn 2020, a phenderfynu gwneud sialens ‘High and Dry’ gan gerdded mynyddoedd a mesur faint o droedfeddi oedden nhw wedi’u dringo mewn mis, tra yn peidio yfed alcohol. Bryd hynny, aeth yr arian at Dîm Achub Mynydd Llanberis.
“Roedd gennym ni leaderboard, ac roedd gennym ni ychydig bach o gystadleuaeth i weld pwy oedd yn gallu dringo mwyaf o droedfeddi mewn mis,” cofia Iwan, gan ychwanegu bod y canwr Lloyd Steele a’r drymiwr Gwion Llewelyn wedi bod yn rhan o’r her yn y gorffennol.
“Yr ail flwyddyn, fe wnaethon ni wneud sialens lle roedden ni’n trio mynd y pellaf oedden ni’n gallu, pwy oedd yn gallu gwneud mwyaf o bellter mewn mis. Fe wnaethon ni hel at Fanc Bwyd Arfon y flwyddyn honno. Llynedd fe wnaethon ni her colli pwysau, a hel arian at Shelter Cymru.”
Elusen wirfoddol ydy Beiciau Gwaed Cymru, ac ynghyd â chludo gwaed ar ran y Gwasanaeth Iechyd, maen nhw’n cario plasma, pelydrau-x, meddyginiaethau, llefrith o’r fron a mwy o un lle i’r llall.
“Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei redeg gan bobol sy’n wirfoddolwyr i gyd, ac maen nhw wedi bod yn ofnadwy o brysur yn ystod Covid yn gwneud mwy o ddyletswyddau nag oedd gofyn iddyn nhw’u gwneud,” eglura Iwan.
“Roedden nhw’n mynd â lot o feddyginiaeth o un lle i llall, ac yn mynd rownd tai â meddyginiaeth i bobol oedd yn fregus a methu mynd allan. Maen nhw’n elusen sy’n gwneud gwaith da, ond maen nhw’n gwneud gwaith sy’n eithaf diddiolch, a dweud y gwir. Does yna ddim llawer o bobol yn gwybod amdanyn nhw na’r gwaith da maen nhw’n ei wneud. “Roedden ni jyst yn ofnadwy o ddiolchgar am y gwaith maen nhw’n ei wneud, felly dyna pam wnaethon ni ddewis y bysa ni’n hel pres iddyn nhw flwyddyn yma.”
Bob blwyddyn, maen nhw’n helpu achosion da Cymreig a rhai sy’n rhoi cymorth i bobol yng nghyffiniau Caernarfon.
“Rydyn ni’n trio mynd am elusennau sydd yn agos i adref,” meddai Siôn, “a thrio peidio mynd am dy elusennau mawr sydd dros Brydain neu dros y byd, dim bod y rheiny ddim yn haeddu’r pres, ond rydyn ni’n trio dewis un bach sydd efallai ddim yn cael gymaint o gefnogaeth ag eraill.”
Yr ysbryd cystadleuol
I gwblhau’r her, roedd rhaid i bawb adael y tŷ er mwyn gwneud ymarfer corff bob dydd, a llosgi 500 calori yn gwneud hynny. Cynhaliwyd ryw lun o beilot i’r her dros yr hydref, a dod i’r casgliad bod 500 calori yr un yn nod realistig.
“Fedra i ddim jyst rhoi’r watch ymlaen a cherdded o gwmpas gwaith drwy’r dydd – dydy hynny ddim yn cyfrif, dw i’n gorfod mynd allan i wneud rhywbeth,” eglura Siôn.
“Mae [faint sydd rhaid i chdi wneud] yn hollol dibynnu ar dy guriad calon, dy bwysau di, a dy oed di – i fi ar hyn o bryd efo fy mhwysau i, dw i’n edrych ar tua phedair neu bum milltir o redeg bob dydd er mwyn llosgi 500 calori. Mae’n rhaid i chdi gael y rest days, ond yn amlwg mae’n rhaid i chdi fynd i’w gwneud nhw. Ffeindio’r balans yna sy’n bwysig, o beidio gorwneud hi un diwrnod a methu gwneud y 500 y diwrnod wedyn.”
Gyda’r dafarn allan o’r cwestiwn ar nos Wener, roedd y penwythnosau yn gyfle i’r criw ddod ynghyd i redeg, bowldro, chwarae sboncen, chwarae pêl-droed, cerdded a mynydda.
“Dw i’n chwarae snwcer efo Iwan Fôn, felly bob penwythnos roedden ni’n gallu canolbwyntio ar chwarae snwcer gwell efo’n gilydd!” ychwanega Siôn.
Daw adegau pan nad ydy mynd allan i redeg mewn eira neu law mawr yn apelio, ond doedd rhoi’r gorau iddi ddim yn opsiwn.
“Ti unai’n gorfod mynd am hanner awr wedi chwech neu saith yn bore, pan mae hi wedi rhewi tu allan, neu ti’n gorfod mynd yn y tywyllwch ar ôl gwaith,” meddai Siôn.
“Dydy o ddim y peth hawsaf i’w wneud ym mis Ionawr, dydy’r tywydd ddim yn garantîo pethau!
Ac mae Iwan yn cytuno: “Pan mae hi’n bwrw tu allan a ti eisiau mynd i redeg, mae hynny’n strygl.
“Dyna ydy’r tric efo fi, peidio gwneud gormod neu fyddi di’n brifo diwrnod wedyn. Os ti’m wedi gwneud dim byd dydd Sul, ac mae hi’n mynd yn nos Sul a ti eisiau eistedd o flaen teledu yn tŷ, ond bod rhaid mynd allan i redeg… mae hynna’n strygl.”
Ers dechrau’r heriau, maen nhw i gyd wedi bod yn gwneud llawer mwy o ymarfer corff, tybia Siôn, er eu bod nhw’n griw eithaf actif beth bynnag.
“Rydyn ni’n gwthio’n hunan hefyd, mae o’n gallu bod yn gystadleuol ar adegau. Mae’n neis ein bod ni’n gallu gwthio’n gilydd i weld be ydy’n limits ni. Be’ sy’n dda ydy bod y sialens yn newid bob blwyddyn felly mae rhywun gwahanol yn ennill bob tro. Fe wnaeth Math ennill tro cyntaf, fe wnes i guro’r ail un, ac Iwan Fôn gurodd yr un llynedd. Mae pawb eisiau curo bob blwyddyn. Bragging right ydy o am y flwyddyn wedyn!”
- Gallwch gyfrannu tuag at yr achos ar dudalen Just Giving ‘High & Dry 4’ Mathonwy Llwyd