Mae Amgueddfa Cymru am fod yn fwy “agored a hael” gyda’i gweithiau celf… 

Yn ystod Covid, bu un o weithwyr Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd yn meddwl am ffordd o fynd â’u trysorau celf at y bobol.

Y canlyniad yw ‘Celf ar y Cyd’ – arddangosfa o 30 o weithiau a gafodd eu dewis o gasgliad celf yr Amgueddfa mewn pleidlais gyhoeddus ar y We yn ystod y pandemig.