Yn y cylchgrawn yr wythnos yma fe gewch chi hanes criw glew o ddynion ifanc sydd nid yn unig wedi ymroi i ymwrthod â’r ddiod gadarn drwy gydol mis cynta’r flwyddyn, ond hefyd wedi bod yn ymarfer eu cyrff yn ddyddiol yr Ionawr hwn.

Mae’r criw wedi bod yn anelu at losgi 500 calori y dydd am 31 o ddyddiau ar y trot.

Ac mae hynny yn golygu lot fawr o drotian – rhaid rhedeg am tua phum milltir i losgi 500 calori… ac nid ar chwarae bach mae gwneud hynny yn ddyddiol. Yn y Gaeaf.